1 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.”
2 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Cafodd pobl Israel osgoi'r cleddyfa profi ffafr Duw yn yr anialwch,wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys.
3 Roedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell,a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth,a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti.
4 Bydda i'n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel!Byddi'n gafael yn dy dambwrîn eto,ac yn mynd allan i ddawnsio a joio.
5 Byddi'n plannu gwinllannoeddar fryniau Samaria unwaith eto.A'r rhai fydd yn eu plannufydd yn cael mwynhau eu ffrwyth.
6 Mae'r amser yn dod pan fydd y gwylwyryn gweiddi ar fryniau Effraim:“Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seioni addoli'r ARGLWYDD ein Duw.”’”
7 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Canwch yn llawen dros bobl Israel,a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf.Gweiddi ac addoli gan ddweud,‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD,achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’
8 ‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd;dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd.Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw;gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant.Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma.
9 Byddan nhw'n dod yn eu dagrau,yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl.Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵrac ar hyd llwybrau gwastad ble byddan nhw ddim yn baglu.Fi ydy tad Israel;Effraim ydy fy mab hynaf.’”
10 Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi'r cenhedloedd i gyd,a'i gyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd:“Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl,yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhwfel bugail yn gofalu am ei braidd.”
11 Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob.Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw.
12 Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar fynydd Seion.Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda.Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd,ŵyn a lloi bach.Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi ei dyfrio.Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto.
13 Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen,a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd.Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd.Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
14 Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau,a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
15 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae cri i'w chlywed yn Rama,sŵn wylo chwerw a galaru mawr –Rachel yn crïo am ei phlant.Mae'n gwrthod cael ei chysuro,am eu bod nhw wedi mynd.”
16 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau.Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith.Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
17 Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD“Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.
18 Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist,‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi.Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers.Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti.Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
19 Roedden ni wedi troi cefn arnat ti,ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl.Ar ôl gweld ein bairoedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion!Roedd gynnon ni gywilydd go iawnam y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’
20 Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi!Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i.Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw,dw i'n dal yn eu caru nhw.Mae'r teimladau mor gryf yno i,alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
21 O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti.Gosod arwyddion, a chodi mynegbysti ganfod y ffordd yn ôl.Tyrd yn ôl! Tyrd adrei dy drefi dy hun.
22 Am faint wyt ti'n mynd i oedi,ferch anffyddlon?Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd –mae fel benyw yn amddiffyn dyn!
23 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw,a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem:‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw,boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’
24 Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto.Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.
25 Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino,ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”
26 Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod yn cysgu'n braf!
27 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto.
28 Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD.
29 “Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel:‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surionond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’
30 Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.”
31 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.
32 Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.
33 Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
34 Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.”
35 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud –yr un sydd wedi gosod trefn i'r haul roi golau yn y dydda'r lleuad a'r sêr roi eu golau yn y nos;yr un sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion –yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e:
36 “Byddai dileu pobl Israel fel cenedlyr un fath â chael gwared â threfn natur!”
37 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod,neu archwilio sylfeini'r ddaear.Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israelam bopeth drwg maen nhw wedi ei wneud,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
38 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel.
39 Bydd ei ffiniau yn ymestyn i'r gorllewin at Fryn Gareb ac yna'n troi i'r de i lawr i Goath.
40 Bydd hyd yn oed y dyffryn ble cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Nant Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.”