Jeremeia 9 BNET

1 O na fyddai fy mhen yn ffynnon ddŵra'r dagrau yn pistyllio o'm llygaid,Wedyn byddwn i'n crïo ddydd a nosam y rhai hynny o'm pobl sydd wedi cael eu lladd!

2 O na fyddai gen i gaban yn yr anialwch –llety ble mae teithwyr yn aros dros nos.Wedyn byddwn i'n gallu dianc,a mynd i ffwrdd oddi wrth fy mhobl.Maen nhw i gyd wedi bod yn anffyddlon i Dduw.Cynulleidfa o fradwyr ydyn nhw!

3 “Mae eu tafodau fel bwa wedi ei blygui saethu celwyddau.Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wladdrwy fod yn anonest.Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4 “Gwyliwch eich ffrindiau!Allwch chi ddim trystio'ch perthnasau hyd yn oed!Maen nhw i gyd yn twyllo ei gilydd,ac yn dweud celwyddau cas am ei gilydd.

5 Mae pawb yn twyllo eu ffrindiau.Does neb yn dweud y gwir.Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd;yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.

6 Pentyrru gormes ar ben gormes, a twyll ar ben twyll!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7 Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i'w puro nhw mewn tân a'u profi nhw.Beth arall alla i ei wneud â'm pobl druan?

8 Mae eu tafodau fel saethau marwol,yn dweud celwydd drwy'r amser.Maen nhw'n dweud eu bod yn dymuno'n dda i'w cymdogion,ond yn eu calon yn bwriadu brad!

9 Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”

10 Dw i'n mynd i grïo'n uchel am y mynyddoedd,a galaru dros diroedd pori'r anialwch.Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio'r ffordd honno.Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu.Mae hyd yn oed yr adar a'r anifeiliaid gwylltionwedi dianc oddi yno.

11 “Bydda i'n gwneud Jerwsalem yn bentwr o rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.Bydda i'n dinistrio pentrefi Jwda,a fydd neb yn gallu byw ynddyn nhw.”

12 Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae'r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio'r peth?Pam mae'r wlad wedi ei difetha'n llwyr,a'r tir fel anialwch does neb yn teithio trwyddo?

13 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Am eu bod nhw wedi troi cefn ar y ddysgeidiaeth rois i iddyn nhw. Dŷn nhw ddim wedi gwrando arna i, a gwneud beth ro'n i'n ddweud.

14 Yn lle hynny maen nhw wedi bod yn hollol ystyfnig a gwneud beth maen nhw eisiau, ac wedi addoli'r duwiau Baal yr un fath â'u hynafiaid.

15 Felly, dyma dw i, Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud:‘Dw i'n mynd i roi profiadau chwerw yn fwyd i'r bobl,a dŵr gwenwynig barn iddyn nhw i'w yfed.’

16 “Dw i'n mynd i'w gyrru nhw ar chwâl. Byddan nhw ar goll mewn gwledydd dŷn nhw, fel eu hynafiaid, yn gwybod dim amdanyn nhw. Bydd byddinoedd eu gelynion yn mynd ar eu holau nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.”

Galw ar y bobl i alaru

17 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Meddyliwch yn ofalus beth sy'n digwydd.Galwch am y gwragedd sy'n galaru dros y meirw.Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol.

18 Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys,a dechrau wylofain yn uchel.Crïo nes bydd y dagrau'n llifo,a'n llygaid ni'n socian.

19 Mae sŵn crïo uchel i'w glywed yn Seion:‘Mae hi ar ben arnon ni!Dŷn ni wedi'n cywilyddio'n llwyr,Rhaid i ni adael ein gwlad,achos maen nhw wedi chwalu'n tai ni i gyd.’”

20 “Felly, chi wragedd, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwrandwch yn ofalus ar ei eiriau.Dysgwch eich merched i alaru.Dysgwch y gân angladdol yma i'ch gilydd:

21 ‘Mae marwolaeth wedi dringo drwy'r ffenestri;mae wedi dod i mewn i'n palasau.Mae wedi cipio ein plant oedd yn chwarae yn y strydoedd,a'r bechgyn ifanc oedd yn cyfarfod ar y sgwâr yn y trefi.’”

22 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd cyrff marw yn gorweddfel tail wedi ei wasgaru ar gae,neu ŷd wedi ei dorri a'i adael yn sypiau,a neb yn ei gasglu.”

23 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Ddylai pobl glyfar ddim brolio eu clyfrwch,na'r pwerus eu bod nhw'n bobl bwerus;a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio'i cyfoeth.

24 Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano:eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deallmai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n llawn cariad,yn deg, ac yn gwneud beth sy'n iawn ar y ddaear.A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

25 “Gwyliwch!” meddai'r ARGLWYDD. “Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi'r rhai sydd ond wedi cael enwaediad corfforol –

26 pobl yr Aifft, Jwda, Edom, Ammon, Moab, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Does dim un ohonyn nhw wedi eu henwaedu go iawn, a dydy calon pobl Israel ddim wedi ei henwaedu go iawn chwaith.”