1 Roedd Sheffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pashchwr, Iwchâl fab Shelemeia, a Pashchwr fab Malcîa, wedi clywed beth oedd Jeremeia wedi bod yn ei ddweud wrth y bobl. Roedd yn dweud
2 “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy'n ildio i'r Babiloniaid yn cael byw.’
3 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo byddin brenin Babilon. Byddan nhw'n ei dal hi.’”
4 Felly dyma'r pedwar swyddog yn mynd at y brenin a dweud, “Rhaid i'r dyn yma farw! Mae e'n torri calonnau'r milwyr a'r bobl sydd ar ôl yn y ddinas yma. Dydy e ddim yn trïo helpu'r bobl yma o gwbl – gwneud niwed iddyn nhw mae e!”
5 “O'r gorau,” meddai'r brenin Sedeceia, “gwnewch beth fynnoch chi ag e. Alla i ddim eich stopio chi.”
6 Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.
7 Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd.
8 Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â'r brenin.
9 “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi ei daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.”
10 Felly dyma'r brenin yn rhoi'r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â tri deg o ddynion gyda ti, a thynnu'r proffwyd Jeremeia allan o'r pydew cyn iddo farw.”
11 Felly dyma Ebed-melech yn cymryd y dynion gydag e. Aeth i'r palas a nôl hen ddillad a charpiau o'r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau.
12 Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho'r carpiau a'r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a'r rhaffau.” A dyma Jeremeia'n gwneud hynny.
13 Yna dyma nhw'n tynnu Jeremeia allan o'r pydew gyda'r rhaffau. Ond roedd rhaid i Jeremeia aros yn iard y gwarchodlu wedyn.
14 Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i'w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.”
15 Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Os gwna i ddweud y cwbl wrthot ti, byddi'n fy lladd i. A wnei di ddim gwrando arna i os gwna i roi cyngor i ti beth bynnag.”
16 Ond dyma'r brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy'n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo'r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.”
17 Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi.
18 Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’”
19 Dyma'r brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i yn eu dwylo nhw byddan nhw'n fy ngham-drin i.”
20 “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud trwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.
21 Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd –
22 Bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti:‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di!Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti!Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwddyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’
23 Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”
24 “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di bydd dy fywyd mewn perygl.
25 Petai'r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dywed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni'n dy ladd di!’
26 Petai hynny'n digwydd, dywed wrthyn nhw, ‘Ro'n i'n pledio ar i'r brenin beidio fy anfon i'n ôl i'r dwnsiwn yn nhŷ Jonathan i farw yno.’”
27 A dyna ddigwyddodd. Pan ddaeth y swyddogion at Jeremeia i'w holi, dyma fe'n dweud yn union beth oedd y brenin wedi ei orchymyn iddo. Wnaethon nhw ddim ei groesholi ddim mwy, achos doedd neb wedi clywed y sgwrs rhwng Jeremeia a'r brenin.
28 Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu hyd y dydd pan gafodd Jerwsalem ei choncro.