16 Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw!
17 Mae'r gelyn o'ch cwmpas yn gwarchae,felly heliwch eich pac yn barod i fynd!
18 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr!Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn,a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw.
19 Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i!Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol.Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy ea bydda i'n dod drosto.’
20 Mae fy mhabell wedi ei dryllio,a'r rhaffau i gyd wedi eu torri.Mae fy mhlant wedi mynd,a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl.Does neb ar ôl i godi'r babell eto,nac i hongian y llenni tu mewn iddi.
21 Mae'r arweinwyr wedi bod mor ddwl!Dŷn nhw ddim wedi gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.Maen nhw wedi methu'n llwyr,ac mae eu praidd nhw wedi eu gyrru ar chwâl.
22 Gwrandwch! Mae'r si ar led! Mae'n dod!Sŵn twrw'r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae'n dod i droi trefi Jwda yn rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.