8 Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i'n ddweud na cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi eu cosbi nhw, yn union fel roedd amodau'r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i'n ddweud.’”
9 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i.
10 Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw.
11 Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw.
12 Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion!
13 A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’
14 “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.