14 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw.
15 Ond ar ôl symud y bobl bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun.
16 Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw y duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw,’ wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi.
17 Os wnân nhw ddim gwrando, bydda i'n eu diwreiddio nhw ac yn eu dinistrio nhw'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.