6 Y gwir ydy, mae hyd yn oed dy berthnasauwedi dy fradychu di.Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di.Felly paid â'i credu nhw,hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig.
7 Dw i wedi troi cefn ar fy nheml,a gwrthod y bobl ddewisais.Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caruyn nwylo eu gelynion.
8 Mae fy mhobl wedi troi arna ifel llew yn y goedwig.Maen nhw'n rhuo arna i,felly dw i yn eu herbyn nhw.
9 Mae'r wlad fel ffau hienasac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas!Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd.Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.
10 Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan,a sathru'r tir ddewisais.Byddan nhw'n troi y wlad hyfrydyn anialwch diffaith.
11 Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr,nes bydd yn grastir gwag.Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio,a does neb o gwbl yn malio.
12 Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch.Nhw ydy'r cleddyf mae'r ARGLWYDD yn ei ddefnyddioi ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall.Fydd neb yn saff!