7 Dw i wedi troi cefn ar fy nheml,a gwrthod y bobl ddewisais.Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caruyn nwylo eu gelynion.
8 Mae fy mhobl wedi troi arna ifel llew yn y goedwig.Maen nhw'n rhuo arna i,felly dw i yn eu herbyn nhw.
9 Mae'r wlad fel ffau hienasac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas!Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd.Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.
10 Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan,a sathru'r tir ddewisais.Byddan nhw'n troi y wlad hyfrydyn anialwch diffaith.
11 Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr,nes bydd yn grastir gwag.Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio,a does neb o gwbl yn malio.
12 Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch.Nhw ydy'r cleddyf mae'r ARGLWYDD yn ei ddefnyddioi ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall.Fydd neb yn saff!
13 Mae fy mhobl wedi hau gwenith,ond dim ond drain fyddan nhw'n ei gasglu!Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd.Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd,am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.”