15 Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch!—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
16 Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haedducyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi.Cyn i chi faglu a syrthiowrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd.Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdanodroi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
17 Os wnewch chi ddim gwrando,bydda i'n mynd o'r golwg i grïo am eich bod mor falch.Bydda i'n beichio crïo, a bydd y dagrau'n llifo,am fod praidd yr ARGLWYDD wedi ei gymryd yn gaeth.
18 “Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines:‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch.Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.
19 Bydd giatiau trefi'r Negef wedi eu cau,a neb yn gallu eu hagor.Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”
20 “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd.Ble mae'r praidd gafodd ei rhoi yn dy ofal di?Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
21 Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDDyn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhwi dy reoli di?Byddi'n gwingo mewn poenfel gwraig ar fin cael babi.