18 “Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines:‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch.Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.
19 Bydd giatiau trefi'r Negef wedi eu cau,a neb yn gallu eu hagor.Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”
20 “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd.Ble mae'r praidd gafodd ei rhoi yn dy ofal di?Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
21 Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDDyn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhwi dy reoli di?Byddi'n gwingo mewn poenfel gwraig ar fin cael babi.
22 Byddi'n gofyn i ti dy hun,‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi?Pam mae fy nillad wedi eu rhwygo i ffwrdd?Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!
23 Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen?Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau?Na. A does dim gobaith i chi wneud da,am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”
24 “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl,fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.