2 Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol.
3 Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi, a dweud,
4 “Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at yr Afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.”
5 Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
6 Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at yr Afon Ewffrates i nôl y lliain ddywedais i wrthot ti am ei guddio yno.”
7 Felly dyma fi'n mynd yno a palu am y lliain lle roeddwn i wedi ei guddio. Roedd wedi ei ddifetha, ac yn dda i ddim.
8 A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD