22 Byddi'n gofyn i ti dy hun,‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi?Pam mae fy nillad wedi eu rhwygo i ffwrdd?Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!
23 Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen?Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau?Na. A does dim gobaith i chi wneud da,am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”
24 “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl,fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.
25 Dyna beth sy'n dod i ti!Dyna wyt ti'n ei haeddu.Ti wedi fy anghofio i,a troi at dduwiau ffals yn fy lle.
26 Bydda i'n dy gywilyddio di –yn codi dy sgert dros dy wyneba bydd pawb yn gweld dy rannau preifat.
27 Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud:godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill.Ti wedi puteinio gyda nhwar ben y bryniau ac yn y caeau.Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân!Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?”