7 Felly dyma fi'n mynd yno a palu am y lliain lle roeddwn i wedi ei guddio. Roedd wedi ei ddifetha, ac yn dda i ddim.
8 A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD
9 yn dweud, “Dyna sut bydda i'n difetha balchder Jwda a Jerwsalem.
10 Mae'r bobl ddrwg yma yn gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach.
11 Yn union fel lliain isaf wedi ei rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”
12 “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’
13 Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib – y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd.