Jeremeia 14:15-21 BNET

15 “Felly dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am y proffwydi sy'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i ac yn dweud fod dim rhyfel na newyn yn mynd i fod: ‘Rhyfel a newyn fydd yn lladd y proffwydi hynny.’

16 A bydd y bobl maen nhw'n proffwydo iddyn nhw hefyd yn marw o ganlyniad i ryfel a newyn. Bydd eu cyrff yn cael eu taflu allan ar strydoedd Jerwsalem, a fydd neb yno i'w claddu nhw na'u gwragedd na'u plant. Bydda i'n tywallt arnyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni.

17 Dywed fel hyn wrthyn nhw, Jeremeia:‘Dw i'n colli dagrau nos a dydd;alla i ddim stopio crïo dros fy mhobl druan.Mae'r wyryf annwyl wedi cael ergyd farwol.Mae hi wedi cael ei hanafu'n ddifrifol.

18 Pan dw i'n mynd allan i gefn gwlad,dw i'n gweld y rhai sydd wedi cael eu lladd gyda'r cleddyf.Pan dw i'n cerdded drwy'r ddinas,dw i'n gweld canlyniadau erchyll y newyn.Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn mynd ymlaen â'i busnes;dŷn nhw ddim yn deall beth sy'n digwydd.’”

19 “ARGLWYDD, wyt ti wir wedi gwrthod Jwda?Wyt ti'n casáu Seion bellach?Pam wyt ti wedi'n taro ni mor galednes bod dim gobaith i ni wella?Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn,ond i ddim pwrpas;roedden ni'n edrych am amser gwell,ond dim ond dychryn gawson ni.

20 ARGLWYDD, dŷn ni'n cyfadde'n drygioni,a bod ein hynafiaid wedi gwneud drwg hefyd.Dŷn ni wedi pechu go iawn yn dy erbyn di.

21 ARGLWYDD, er mwyn dy enw da, paid â'n gwrthod ni.Paid dirmygu'r lle ble mae dy orsedd wych di.Cofia'r ymrwymiad wnest ti hefo ni. Paid â'i dorri!