8 Ti ydy unig obaith Israel –ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl.Pam wyt ti fel estron yn y wlad?Pam wyt ti fel teithiwr sydd ond yn aros am noson?
9 Pam ddylet ti ymddangos fel rhywun gwan,neu arwr sydd ddim yn gallu achub ddim mwy?Ond rwyt ti gyda ni, ARGLWYDD.Dŷn ni'n cael ein nabod fel dy bobl di.Paid troi dy gefn arnon ni!”
10 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am ei bobl:“Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i grwydro.Maen nhw'n mynd ble bynnag maen nhw eisiau.Felly dw i ddim yn eu derbyn nhw fel fy mhobl ddim mwy.Bydda i'n cofio'r pethau drwg maen nhw wedi ei wneudac yn eu cosbi nhw am eu pechodau.”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Paid gweddïo dros y bobl yma.
12 Hyd yn oed os byddan nhw'n ymprydio, fydda i'n cymryd dim sylw. Ac os byddan nhw'n offrymu aberth llosg ac offrwm o rawn, fydda i ddim yn eu derbyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw â rhyfel, newyn a haint.”
13 A dyma fi'n dweud, “Ond Meistr, ARGLWYDD, mae'r proffwydi yn dweud wrthyn nhw, ‘Bydd popeth yn iawn! Fydd dim rhyfel na newyn, dim ond heddwch a llwyddiant.’”
14 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r proffwydi'n dweud celwydd. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond wnes i ddim eu hanfon nhw. Wnes i ddim eu penodi nhw na rhoi neges iddyn nhw. Maen nhw'n proffwydo gweledigaethau ffals ac yn darogan pethau diwerth. Maen nhw'n twyllo eu hunain.