10 “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.
12 “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”
13 “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad,bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorauyn ysbail i'ch gelynion.
14 Byddwch yn gwasanaethu eich gelynionmewn gwlad ddieithr.Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
15 “ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd.Cofia amdana i, a tyrd i'm helpu i.Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i.Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i.Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di.
16 Wrth i ti siarad ron i'n llyncu pob gair;roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus –ron i wrth fy modd!I ti dw i'n perthynO ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus.