5 “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem?Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti?Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?
6 Ti wedi troi cefn arna i”, meddai'r ARGLWYDD.“Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth!Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di.Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd.
7 Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawnym mhob un o drefi'r wlad.Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a chymryd eu plant i ffwrdd,am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.
8 Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr.Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd,a chwalu bywydau eu mamau.Bydd dioddef a dychrynyn dod drostyn nhw'n sydyn.
9 Bydd y fam oedd â saith o feibionyn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu.Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywydwedi machlud ganol dydd.Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth.A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladdgan gleddyf y gelyn,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
10 “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.