7 Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawnym mhob un o drefi'r wlad.Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a chymryd eu plant i ffwrdd,am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.
8 Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr.Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd,a chwalu bywydau eu mamau.Bydd dioddef a dychrynyn dod drostyn nhw'n sydyn.
9 Bydd y fam oedd â saith o feibionyn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu.Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywydwedi machlud ganol dydd.Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth.A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladdgan gleddyf y gelyn,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
10 “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.
12 “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”
13 “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad,bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorauyn ysbail i'ch gelynion.