1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2 “Paid priodi na chael plant yn y wlad yma.
3 Achos dyma sy'n mynd i ddigwydd i'r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i'w mamau a'u tadau nhw:
4 Byddan nhw'n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a'r anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff.”
5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ ble mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i'r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw.
6 Bydd yr arweinwyr a'r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain a chyllyll a siafio eu pennau i ddangos mor drist ydyn nhw.
7 Fydd neb yn mynd â bwyd i'r rhai sy'n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i'w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad.