17 Achos dw i'n gweld popeth maen nhw'n ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i.
18 Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.”
19 “O ARGLWYDD, ti sy'n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn;ti ydy'r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion.Bydd cenhedloedd o bob rhan o'r bydyn dod atat ti ac yn dweud:‘Roedd ein hynafiaid wedi eu magu i addoli delwau diwerth,pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb.
20 Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain?Na! dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’”
21 “Felly, dw i'n mynd i'w dysgu nhw,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n mynd i ddangos iddyn nhw unwaith ac am byth mor gryf ydw i, a byddan nhw'n gwybod mai'r ARGLWYDD ydy fy enw i.”