6 Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial,heb ddim gobaith i'r dyfodol.Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth,mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw.
7 Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio iac yn rhoi eu hyder ynof fi.
8 Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon,a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr.Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi;mae ei dail yn aros yn wyrdd.A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder;bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.
9 Oes rhywun yn deall y galon ddynol?Mae'n fwy twyllodrus na dim,a does dim gwella arni.
10 Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haedduam y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
11 Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyllfel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy.Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl,ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”
12 “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wychsy'n uchel o'r dechrau cyntaf:ti ydy'r lle saff i ni droi!