1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:
2 “Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma:Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i,a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos,fel merch ifanc ar fin priodi.Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwchmewn tir oedd heb ei drin.
3 Roedd Israel wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD,fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf.Roedd pawb oedd yn ei chyffwrddyn cael eu cyfri'n euog,a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
4 Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD bobl Jacob – llwythau Israel i gyd.
5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Pa fai gafodd eich hynafiaid yno ieu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i?Dilyn delwau diwerth,a gwneud eu hunain yn dda i ddim.
6 Wnaethon nhw ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDDddaeth â ni allan o wlad yr Aifft,a'n harwain ni drwy'r anialwch? –ein harwain trwy dir diffaithoedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll;tir does neb yn mynd trwyddo,a lle does neb yn byw.’
7 Des i a chi i dir ffrwythlona gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da.Ond pan aethoch i mewn ynodyma chi'n llygru'r tir,a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chiyn ffiaidd yn fy ngolwg i.