8 Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDD?’Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraithddim yn fy nabod i.Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,ac yn dilyn delwau diwerth.
9 Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
10 “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld;neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio.Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?
11 Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau?(A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!)Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych,am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth.
12 Mae'r nefoedd mewn siocfod y fath beth yn gallu digwydd!Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
13 “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg:Maen nhw wedi troi cefn arna i,y ffynnon o ddŵr glân gloyw,a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain –pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”
14 “Ydy Israel yn gaethwas? Na!Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo!Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn?