1 Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.)
2 A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml.
3 Y bore wedyn dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman.’
4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd.
5 Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.