Jeremeia 20:3-9 BNET

3 Y bore wedyn dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman.’

4 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd.

5 Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.

6 Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna ble byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”

7 ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i,a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny.Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi.A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl.Mae pawb yn chwerthin ar fy mhen i!

8 Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi,“Mae trais a dinistr yn dod!”Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneudyn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.

9 Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl,ond alla i ddim!