1 Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd Pashchwr fab Malcîa, a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia eu danfon ato gan y Brenin Sedeceia.
2 “Wnei di ofyn i'r ARGLWYDD ein helpu ni?” medden nhw. “Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, ar fin ymosod arnon ni. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud gwyrth fel yn y gorffennol, ac yn ei anfon i ffwrdd oddi wrthon ni.”
3 A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud:
4 ‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond dw i'n mynd i wneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma.