3 A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud:
4 ‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond dw i'n mynd i wneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma.
5 Dw i'n wyllt, ac wedi digio'n fawr hefo chi, a dw i fy hun yn mynd i ymladd yn eich erbyn chi gyda'm holl nerth a'm grym.
6 Dw i'n mynd i daro popeth byw yn y ddinas yma – yn bobl ac anifeiliaid. Byddan nhw'n marw o haint erchyll.
7 Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’
8 “Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi – ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth.
9 Bydd y rhai sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd pawb sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Babiloniaid sy'n gwarchae ar y ddinas yma, yn cael byw.