Jeremeia 21:6-13 BNET

6 Dw i'n mynd i daro popeth byw yn y ddinas yma – yn bobl ac anifeiliaid. Byddan nhw'n marw o haint erchyll.

7 Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’

8 “Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi – ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth.

9 Bydd y rhai sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd pawb sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Babiloniaid sy'n gwarchae ar y ddinas yma, yn cael byw.

10 Dw i wedi penderfynu gwneud drwg i'r ddinas yma yn lle gwneud da. Dw i'n mynd i adael i frenin Babilon ei choncro hi, a bydd yn ei llosgi'n ulw.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

11-12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD –‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd.Achubwch bobl sy'n dioddefo grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw.Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.

13 Hei, ti sydd wedi dy orseddu uwchben y dyffrynar y byrdd-dir creigiog – dw i yn dy erbyn di!’—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.‘Dych chi'n dweud, “Fydd neb yn gallu ymosod arnon ni yma.Does gan neb obaith dod i mewn aton ni!”