19 Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw –Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinasa'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.”
20 Dringwch fynyddoedd Libanus, a galaru yno.Gwaeddwch yn uchel ar fryniau Bashan.Ewch i alaru ar fynyddoedd AfarîmMae eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu concro!
21 Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder,ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.”Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf –dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando.
22 Bydd eich arweinwyr yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.Bydd eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu cymryd yn gaeth.Bryd hynny bydd gynnoch chi gywilydd go iawno'r holl bethau drwg wnaethoch chi.
23 Falle eich bod chi'n teimlo'n reit saff,fel aderyn yn nythu ar goed cedrwydd Libanus.Ond byddwch yn griddfan mewn poen pan ddaw'r farn.Byddwch fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
24 “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r ARGLWYDD, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda wedi bod yn sêl-fodrwy ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd.
25 Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin.