8 “Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’
9 A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’”
10 “Paid crïo am fod y brenin wedi marw.Paid galaru ar ei ôl.Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd.Fydd e ddim yn dod yn ôl adre,Gaiff e byth weld ei wlad eto.
11 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad Joseia: ‘Mae e wedi ei gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl.
12 Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”
13 “Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas;yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf.Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim;dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw.
14 Mae'n dweud wrtho'i hun,‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych,gyda llofftydd mawr, a digon o ffenestri.Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo,a'i beintio yn goch llachar.’