1 “Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.”
2 Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
3 “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw.
4 Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD.
5 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
6 Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachuba bydd Israel yn saff.Yr enw ar y brenin yma fydd,‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’