4 Yna dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
5 “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Mae'r ffigys da yn cynrychioli'r bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid.
6 Dw i wedi eu hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad yma. Bydda i'n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn.
7 Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’
8 “Ond,” meddai'r ARGLWYDD, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi eu gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft.
9 Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw'n jôc. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw'n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi eu melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw.
10 Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dinistrio'n llwyr o'r wlad rois i iddyn nhw a'u hynafiaid.”