18 Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!
19 Yna'r Pharo (brenin yr Aifft) a'i weision a'i swyddogion, pobl yr Aifft i gyd,
20 a'r bobl o dras cymysg sy'n byw yno.Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod.
21 Wedyn pobl Edom, Moab ac Ammon.
22 Brenhinoedd Tyrus a Sidon, a brenhinoedd y trefi eraill ar yr arfordir.
23 Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch.
24 Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch.