Jeremeia 25:27-33 BNET

27 “Dywed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’

28 “Os byddan nhw'n gwrthod cymryd y gwpan gen ti, ac yfed ohoni, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Does gynnoch chi ddim dewis. Bydd rhaid i chi yfed!

29 Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.’

30 Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw:‘Mae'r ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod,o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith.Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin,wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear.

31 Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd.Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd,ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan.Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd gan y cleddyf!’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

32 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall.Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”

33 Bydd y rhai fydd wedi eu lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi ei wasgaru ar wyneb y tir.