34 Dechreuwch udo a chrïo, chi arweinwyr y bobl!Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl.Mae diwrnod y lladdfa wedi dod.Cewch eich gwasgaru.Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.
35 Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd.Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd!
36 Gwrandwch ar sŵn yr arweinwyr yn crïo!Gwrandwch ar fugeiliaid y praidd yn udo!Mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio eu tir nhw.
37 Bydd y borfa dawel ble maen nhw'n aros yn anialwch difywydam fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.
38 Mae'r ARGLWYDD fel llew wedi dod allan o'i ffau.Mae wedi digio'n lâna bydd y wlad yn cael ei difethagan gleddyf y gelyn.