5 Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud, wedyn byddwch chi'n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a'ch hynafiaid am byth bythoedd.
6 Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi.
7 “‘Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’
8 “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.
9 Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.
10 Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.
11 Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.