8 “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.
9 Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.
10 Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.
11 Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.
12 “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.
13 Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi ei broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.
14 Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”