1 Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD:
2 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dywed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud – pob gair!
3 Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud.
4 Dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw.