11 Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi yn dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi ei glywed eich hunain.”
12 Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth ydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma.
13 Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud.
14 Ond dw i'n eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.
15 Ond deallwch hyn: Os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”
16 Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.”
17 A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno,