11 Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’”
12 Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw.
13 Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd gan y cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon.
14 Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd!
15 ‘Wnes i ddim eu hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Mae'n nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’”
16 Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd.
17 Peidiwch gwrando arnyn nhw. Os gwnewch chi wasanaethu brenin Babilon, cewch fyw. Pam ddylai'r ddinas yma gael ei dinistrio?