8 “‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi eu dinistrio nhw yn llwyr.
9 Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na'r bobl hynny sy'n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda'r meirw neu ddewino – y rhai sy'n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon.
10 Maen nhw'n dweud celwydd. Os gwrandwch chi arnyn nhw byddwch chi'n cael eich cymryd i ffwrdd yn bell o'ch gwlad. Bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch yn marw yno.
11 Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’”
12 Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw.
13 Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd gan y cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon.
14 Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd!