Jeremeia 29:17-23 BNET

17 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta.

18 Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi ei melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth.

19 Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi ei ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r ARGLWYDD.

20 Felly – chi sydd wedi eich gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.

21 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi.

22 Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’

23 Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel. Cysgu gyda gwragedd dynion eraill, a dweud celwydd tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD.