27 Dylet ti fod wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd.
28 Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’”
29 Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia.
30 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia,
31 “Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: “Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!”
32 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.”’”