12 Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel,‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD.‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen.Dw i'n Dduw trugarog!Fydda i ddim yn dal dig am byth.
13 Dim ond i ti gyfaddef dy fai –cyfaddef dy fod wedi gwrthryfelayn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw,a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog.Cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD.
14 “‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n eich cymryd chi yn ôl i Seion – bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd.
15 Bydda i'n rhoi arweinwyr i chi sy'n ffyddlon i mi. Byddan nhw'n gofalu amdanoch chi'n ddoeth ac yn ddeallus.’
16 Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd.
17 Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg.
18 Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”