17 Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg.
18 Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”
19 “Roeddwn i'n arfer meddwl,‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab!Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti –yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’Roeddwn i'n arfer meddwly byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’a byth yn troi cefn arna i.
20 Ond yn lle hynny,buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel,fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
21 Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau.Sŵn pobl Israel yn crïo ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛.Maen nhw wedi anghofio'r ARGLWYDD eu Duwa chrwydro mor bell oddi wrtho!
22 “Dewch yn ôl ata i bobl anffyddlon;gadewch i mi eich gwella chi!”“Iawn! Dyma ni'n dod,” meddai'r bobl.“Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
23 Dydy eilun-dduwiau'r bryniau yn ddim ond twyll,a'r holl rialtwch wrth addoli ar y mynyddoedd.Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig un all achub Israel.