4 Ac eto dyma ti'n galw arna i, ‘Fy nhad!Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan o'n i'n ifanc –
5 Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth?Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’Ie, dyna beth ti'n ddweud,ond yna'n dal i wneudcymaint o ddrwg ag y medri di!”
6 Pan oedd Joseia yn frenin dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat – mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwarae'r butain drwy addoli duwiau eraill.
7 Hyd yn oed wedyn roeddwn i yn gobeithio y byddai hi'n troi'n ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl.
8 Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!
9 Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygru'r tir drwy addoli duwiau o bren a charreg.
10 Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD.