1 Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:
2 “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i'n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl.
3 Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n rhoi'r cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid. Byddan nhw'n ei chymryd hi'n ôl eto.’”
4 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i mi am bobl Israel a Jwda:
5 “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd i'w glywed;does dim sôn am heddwch!’