11 Dw i gyda chi, i'ch achub chi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynnylle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,ond wna i ddim eich dinistrio chi.Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu,ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu;alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Does dim modd gwella dy friwiau;ti wedi dy anafu'n ddifrifol.
13 Does neb yn gallu dy helpu di.Does dim eli i wella'r dolur;does dim iachâd.
14 Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di.Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti!Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn;rwyt wedi diodde cosb greulon,am dy fod wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.
15 Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau?Does dim modd gwella dy boenDw i wedi gwneud hyn i gyd i tiam dy fod ti wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.
16 Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio.Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth.Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio,a'r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth.
17 Ydw, dw i'n mynd i dy iacháu di;Dw i'n mynd i wella dy friwiau,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Roedden nhw'n dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’.‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.”