9 Byddan nhw'n gwasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw a'r un o linach Dafydd fydda i'n ei wneud yn frenin arnyn nhw.”
10 “Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Peidiwch anobeithio bobl Israel.Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch planto'r wlad bell lle buoch yn gaeth.Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch.Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
11 Dw i gyda chi, i'ch achub chi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynnylle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,ond wna i ddim eich dinistrio chi.Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu,ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu;alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Does dim modd gwella dy friwiau;ti wedi dy anafu'n ddifrifol.
13 Does neb yn gallu dy helpu di.Does dim eli i wella'r dolur;does dim iachâd.
14 Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di.Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti!Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn;rwyt wedi diodde cosb greulon,am dy fod wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.
15 Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau?Does dim modd gwella dy boenDw i wedi gwneud hyn i gyd i tiam dy fod ti wedi bod mor ddrwgac wedi pechu mor aml.