11 Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob.Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw.
12 Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar fynydd Seion.Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda.Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd,ŵyn a lloi bach.Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi ei dyfrio.Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto.
13 Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen,a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd.Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd.Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
14 Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau,a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
15 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae cri i'w chlywed yn Rama,sŵn wylo chwerw a galaru mawr –Rachel yn crïo am ei phlant.Mae'n gwrthod cael ei chysuro,am eu bod nhw wedi mynd.”
16 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau.Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith.Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
17 Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD“Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.